Ceisiadau bellach ar agor ym Maesgwyn Isaf
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer tirweithwyr, tyfwyr ecolegol neu ffermwyr sydd â diddordeb mewn cymryd tir drosodd ym Maesgwyn Isaf, ein fferm a roddwyd i ni yn ddiweddar yn Sir Gaerfyrddin, De-orllewin Cymru.
Rydym yn chwilio am dri busnes tir i leoli eu hunain ym Maesgwyn Isaf, gyda’r opsiwn o fyw ar y fferm, mewn llety dros dro i ddechrau tra bod y ffermdy yn cael ei adnewyddu.
Mae Maesgwyn Isaf yn addas iawn i gyfuniad o fentrau amaethyddol cymysg fel gerddi marchnad, da byw ar raddfa fach, a mentrau coetir, ac mae ganddo hefyd nifer o adeiladau allanol.
Rydym hefyd yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan fusnesau amhreswyl megis crefftwyr traddodiadol sy’n chwilio am ofod gweithdy; Gwenynwyr; neu’r grwpiau cymunedol lleol.
