Mae Maesgwyn Isaf yn fferm 47 erw yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y fferm yn arfer bod yn eiddo i Jen a Stuart Carter, a fu’n byw a gweithio ar y tir am dros 25 o flynyddoedd. Roedd gan y teulu ddiddordeb mawr yn yr amgylchedd naturiol, a buont yn rheoli’r tir gyda phwyslais ar fioamrywiaeth, ochr yn ochr â da byw a garddwriaeth. Dros y blynyddoedd plannodd Jen a Stuart dros 13,000 o goed brodorol ym Maesgwyn Isaf, ond gan gadw’r dirwedd amaethyddol brydferth. Roedd y gymuned hefyd yn bwysig dros ben i’r cwpl, ac roeddent yn croesawu pobl leol i’r fferm drwy gyfrwng digwyddiadau a llwybrau cerdded.
Pan fyddent ymadael, roedd Jen a Stuart yn awyddus y byddai rhywun yn parhau â’u gwaith oes. Heb blant i’w hetifeddu, penderfynodd y cwpl adael y fferm i’r Ecological Land Cooperative yn eu hewyllys.
Mewn cyfnod o gynnydd aruthrol ym mhrisiau tai a thir, bydd y rhodd hon yn ein galluogi i helpu ffermwyr y dyfodol i gychwyn mewn amaethyddiaeth ecolegol.
Rydym mor ddiolchgar am ei haelioni, ac mi wnawn yn siŵr ein bod yn gwneud cyfiawnder â’u hetifeddiaeth i ffermio, i natur a’r gymuned.












