Rhoi eich Tir yn Anrheg

A oes gennych chi dir yr ydych am sicrhau y bydd ganddo ddyfodol mewn amaethyddiaeth ecolegol? A hoffech chi weld eich tir yn cynnal y genhedlaeth nesaf o ffermwyr agroecolegol?

Mae’r Ecological Land Cooperative yn gymdeithas budd cymunedol gydweithredol nid er elw, sy’n darparu tir i newydd-ddyfodiaid i ffermio ecolegol.

Mae gennym uchelgais fawr, ond mae angen eich help chi arnom. Rydym yn gwahodd tirfeddianwyr i ystyried rhoi tir yn anrheg i’r ELC, i helpu cenhedlaeth newydd o ffermwyr agroecolegol – yn awr ac yn y dyfodol.

Rydym am weld cefn gwlad byw, gweithgar, lle mae tir yn cael ei ddefnyddio er budd economïau gwledig, diogeled bwyd a byd natur.

Mae’r ELC yn cyflawni’r weledigaeth hon drwy ddatblygu clystyrau o fân-ddaliadau bach eu heffaith, sy’n cael eu diogelu ar gyfer amaethyddiaeth ecolegol am byth. Rydym yn creu cyfleoedd i rai sy’n newydd-ddyfodiaid i agroecoleg i brynu neu rentu tir ar brydlesi fforddiadwy 150 mlynedd o hyd, a fydd yn caniatáu eu bod yn cael tir a fyddai fel arall y tu hwnt i gyrraedd llawer.

Ers prynu ein safle cyntaf yng nghanol Dyfnaint yn 2009, mae’r ELC wedi ffynnu. Rydym wedi helpu ffermwyr newydd i greu naw menter agroecolegol newydd ar bum safle, gyda rhagor o fân-ddaliadau yn yr arfaeth.

Mae gennym uchelgais fawr yma yn yr ELC, ond ein her fwyaf yw cael gafael ar dir.

Mi allwch helpu ffermio agroecolegol yn y DU drwy roi tir yn anrheg i’r Ecological Land Cooperative. Mae ein holl dir yn cael ei warchod ar gyfer amaethyddiaeth ecolegol am byth, ac mae’n cael ei reoli mewn ffordd sensitif gyda golwg ar anghenion bioamrywiaeth a’r gymuned leol.

Rydym yn sylweddoli na fydd rhoi tir yn anrheg yn bosibl i lawer o dirfeddianwyr, ond mi hoffem siarad â chi hefyd os oes gennych dir addas i’w werthu am bris ffafriol.

Y Camau nesaf

Darllenwch y dudalen Cwestiynau Cyffredin i gael rhagor o wybodaeth am yr Ecological Land Cooperative, sut yr ydym yn rheoli ein tir a’n mân-ddaliadau, a sut y gallwch roi’ch tir yn anrheg.

Os hoffech wybod mwy am helpu’r Ecological Land Cooperative drwy roi tir yn anrheg, cysylltwch â Stella Peyerl, ein Rheolwr Datblygu Safleoedd, drwy e-bostio stella@ecologicalland.coop.

Ar gyfer ffermwyr

Mae prisiau tir uchel a phrinder cymorth gan y llywodraeth yn ei gwneud yn anodd dros ben i newydd-ddyfodiaid ddechrau ffermio. Gydag oedran cyfartalog ffermwyr yn y DU yn agos at 60 oed, mae’n hanfodol bod cenhedlaeth newydd, amrywiol yn cael help i ddechrau ffermio. Yma yn yr Ecological Land Cooperative, rydym yn datblygu mân-ddaliadau sy’n wirioneddol fforddiadwy i newydd-ddyfodiaid i ffermio agroecolegol, sy’n golygu bod modd i bawb – ac nid lleiafrif yn unig – gael gafael ar dir.

Ar gyfer natur

Mae’r sector amaethyddiaeth yn cael y bai’n aml am niweidio bioamrywiaeth, cynefinoedd a’r ecosystem. Ond nid oes yn rhaid i bethau fod fel hyn. Yma yn yr Ecological Land Cooperative, rydym yn credu y gallwn gynhyrchu bwyd da, iach heb ddifetha natur.

Mae pob un o’n mân-ddaliadau’n destun cynllun rheoli ecolegol, sy’n cael ei fonitro gennym yn flynyddol. Mae Greenham Reach, ein safle hynaf, wedi dangos enillion ecolegol sylweddol ers 2009.

Mewn adroddiadau ecolegol diweddar, gwelwyd fod porfeydd a oedd wedi’u diraddio yn dangos bod y clytwaith o bori sy’n cael ei reoli’n sensitif, ynghyd â gorchudd coed, a mannau garddwriaethol bellach yn safle “o bwys sylweddol yn lleol ar gyfer pryfed sy’n bwydo ar neithdar a phaill, ac yn safle pwysig sy’n dangos posibiliadau gwelliannau amgylcheddol mewn ardal fechan”.

Ar gyfer yr hinsawdd

Newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i ddynoliaeth. Drwy reoli tir yn ofalus a thrwy leihau mewnbynnau ynni-ddwys, rydym yn credu y gall amaethyddiaeth helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Drwy gyfrwng ein cynlluniau rheoli ecolegol llym, rydym yn mynnu bod ffermwyr yn mynd ati i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr eu menter. Mae hyn yn cynnwys darparu trydan gwyrdd i ffermwyr, lleihau traffig, a gwahardd y defnydd o wrteithiau ynni-ddwys. Hefyd, rydym yn annog ffermwyr i gynyddu potensial atafaelu carbon eu ffermydd drwy blannu gwrychoedd a choetiroedd.

Am byth

Mae’n cymryd blynyddoedd i ddatblygu busnes ffermio llwyddiannus, ac mae’n cymryd cenedlaethau i reoli tir ar gyfer natur a’r hinsawdd. Fodd bynnag, nid yw prydlesi cyfartalog tenantiaid ffermydd yn y DU yn ddim mwy na phum mlynedd.

Mae’r caniatâd cynllunio rydym yn ymgeisio amdano ar gyfer llety preswyl ar y safleoedd yn golygu bod yn rhaid sicrhau bod y tir yn parhau i gael ei ddefnyddio i ddibenion amaethyddol. Mae hyn yn golygu y bydd y tir bob amser yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mentrau amaethyddol, ac na ellir ei werthu ar y farchnad agored.

Rydym yn cynnig prydlesi o 150 o flynyddoedd i’n ffermwyr, ac wedyn mi fydd ganddynt y sicrwydd i fuddsoddi yn y tir ac i ddatblygu menter y gellir ei throsglwyddo ar hyd y cenedlaethau.