{"id":169,"date":"2018-06-20T12:53:45","date_gmt":"2018-06-20T12:53:45","guid":{"rendered":"http:\/\/wordpress.ecologicalland.coop\/amdanom-ni\/"},"modified":"2022-09-25T17:40:23","modified_gmt":"2022-09-25T16:40:23","slug":"amdanom-ni","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/","title":{"rendered":"Amdanom Ni"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r Ecological Land Cooperative yn datblygu tyddynnod fforddiadwy, effaith isel ar gyfer amaethyddiaeth ecolegol. Mae costau uchel tir a thai gwledig yn ei gwneud hi bron yn amhosibl i newydd-ddyfodiaid i\u2019r byd ffermio ddechrau busnes ffermio. Trwy ddarparu tyddynnod fforddiadwy a sicr, rydym yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r argyfwng hwn.<\/p>\n<p>Rydym wedi dylunio model i greu tyddynnod fforddiadwy, ecolegol er mwyn rhoi gobaith i\u2019r rheiny sy\u2019n dewis byw yn gynaliadwy, sy\u2019n benderfynol o droi syniadau da\u2019n realiti a chael dylanwad cadarnhaol. Ar \u00f4l datblygu ein clwstwr cyntaf o ffermydd yn llwyddiannus yng Nghanol Dyfnaint, rydym wedi dechrau gweithio ar ein hail safle yn Nwyrain Sussex ac wedi prynu\u2019n trydydd safle yng Ng\u0175yr.<\/p>\n<p>Dangoswn y GALL ffermio ecolegol graddfa fach weithio yn yr economi sydd ohoni. Mae tyddynnod a reolir yn gynaliadwy yn darparu bywoliaeth effaith isel, yn adfywio tir ac yn cynhyrchu bwyd da, iach i gymunedau lleol, gan gynyddu cynaliadwyedd a gwydnwch, a gwella ecoleg a bioamrywiaeth i genedlaethau\u2019r dyfodol.<\/p>\n<p>Trwy gefnogi newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth ecolegol, rydym yn helpu adfywio cymunedau gwledig. Rydym am weld cefn gwlad byw, gweithredol lle gwerthfawrogir tir fel ffordd o wella lles cymunedau a\u2019r byd naturiol.<\/p>\n<p><em>\u201cCefnogwn fodelau defnydd tir sy\u2019n gwneud i dir weithio i bobl a\u2019r amgylchedd. Yn anffodus, gwelwn newydd-ddyfodiaid i ffermio\u2019n cael trafferth dro ar \u00f4l tro yn sicrhau mynediad i dir, caniat\u00e2d cynllunio, neu ddechrau arni. Mae gan yr Ecological Land Cooperative strategaeth wych i helpu newydd-ddyfodiaid oresgyn pob un o\u2019r rhain. Bydd eu model yn cael mwy o dir i mewn i reolaeth gynhyrchiol, ecolegol.\u201d<br \/>\n<strong>Kate Swade, Cyfarwyddwr, Shared Assets<\/strong><\/em><\/p>\n<h2>Ein Gwaith<\/h2>\n<p>Mae bywoliaeth wledig gynaliadwy, megis cynhyrchiant bwyd ecolegol graddfa fach, yn diogelu\u2019r amgylchedd ac yn lleihau gollyngiadau nwy t\u0177 gwydr trwy leihau\u2019r defnydd o danwydd ffosil. Mae\u2019r fath fusnesau\u2019n helpu adeiladu cefn gwlad bywiog, byw lle mae pobl yn ffynnu ochr yn ochr \u00e2\u2019n tirweddau annwyl a\u2019n bioamrywiaeth naturiol, ac mae ganddynt r\u00f4l bwysig i\u2019w chwarae wrth sicrhau diogelwch bwyd ac ynni. Maen nhw hefyd yn darparu cyflogaeth, mynediad i fwyd a chrefftau lleol, a chyfleoedd addysgol i ymwelwyr trefol, gan helpu i gynnal sgiliau gwledig a gwella llythrennedd ecolegol. Ein cenhadaeth yw cynyddu mynediad i dir fforddiadwy ar gyfer y fywoliaeth honno.<\/p>\n<p>Ein hateb a\u2019n busnes craidd yw creu clystyrau bychain o dri thyddyn preswyl fforddiadwy neu\u2019n fwy. Yn ogystal \u00e2 thir, rhown ganiat\u00e2d i dyddynwyr godi eu cartref cynaliadwy eu hunain, a hynny gyda gwasanaethau oddi ar y grid a mynediad trwy ffordd. Mae ein model yn ein galluogi ni i gadw costau\u2019n isel, trwy brynu safleoedd mwy o faint am bris is fesul erw, a thrwy ddosbarthu cost isadeiledd, ceisiadau cynllunio a monitro safleoedd dilynol ar draws nifer o dyddynnod. Mae\u2019r model yn galluogi tyddynwyr i weithio a dysgu gyda\u2019i gilydd&nbsp; ac i ddarparu cefnogaeth i\u2019w gilydd. Mae ein cydweithfa\u2019n cadw\u2019r rhydd-ddaliad ar bob tyddyn er mwyn eu diogelu at ddefnydd amaethyddol ac ecolegol fforddiadwy am byth.<\/p>\n<p>Y tu hwnt i hyn, ein gweledigaeth yw un lle gwerthfawrogir ac y defnyddir tir fel ffordd o wella lles pob un ohonom. Ar hyn o bryd, mae tir yn y DU yn darged hapfuddsoddi; o gymharu, mae ein model yn hyrwyddo gweledigaeth ar y cyd, ecolegol a chydweithredol o berchnogaeth tir a defnydd tir.<\/p>\n<p><em>\u201cSefydliad bach yw\u2019r Ecological Land Cooperative gydag uchelgeisiau mawr, ac o\u2019r herwydd, rwy\u2019n ei gymeradwyo.\u201d<br \/>\n<strong>Buddsoddwr<\/strong><\/em><\/p>\n<h2>Buddiannau Ehangach<\/h2>\n<p>Mae ein gwaith wedi\u2019i ganoli ar ddatblygiad tyddynnod ecolegol, ond mae effeithiau ein gwaith yn ehangach na hyn.<\/p>\n<p>Mae creu deiliadaethau ecolegol hefyd:<\/p>\n<ul>\n<li>Yn dangos model cydberchnogaeth a all ddiogelu a gwella\u2019r tir, yn seiliedig nid yn unig ar syniadau cadwraeth, ond ar gynhyrchu cefn gwlad byw a gweithredol;<\/li>\n<li>Yn cyfrannu at, ac yn cryfhau\u2019r gymuned sy\u2019n tyfu o unigolion a sefydliadau sy\u2019n ymroi i feithrin y sgiliau, y wybodaeth a\u2019r undod i alluogi\u2019r tir i\u2019n cynnal ni wrth i ni fwrw tuag at gyfnod na ellir ei ragweld;<\/li>\n<li>Yn darparu tystiolaeth trwy\u2019n hymchwil monitro safleoedd sy\u2019n helpu cryfhau ymgyrchoedd ar gyfer diwygio tir;<\/li>\n<li>Yn ceisio gwella polisi cynllunio trwy ddarparu tystiolaeth ac enghreifftiau bod gan ddefnydd tir ecolegol effaith isel fuddiannau amryfal a dylid ei gofleidio a\u2019i ddeddfu.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Y Cyd-destun<\/h2>\n<p>Mae ffermio allan o gyrraedd newydd-ddyfodiaid. Er bod niferoedd y bobl ifanc sy\u2019n astudio amaethyddiaeth yn tyfu, oedran cyfartalog y ffermwr Prydeinig yw 59 ac mae\u2019n codi. Dyma rai o\u2019r ffactorau sy\u2019n achosi hyn:<\/p>\n<p><strong>Costau tir uchel: <\/strong>mae pris tir amaethyddiaeth ar lefelau record ar hyn o bryd, gan gostio \u00a39,000 fesul erw ar gyfartaledd. Mae\u2019r ansefydlogrwydd yn y system ariannol, a\u2019r gyfundrefn cymorthdaliadau, wedi arwain at gynnydd yn y tir a brynwyd fel buddsoddiad. Yn y cyfnod 2000-2010, cyfrifodd newydd-ddyfodiaid i\u2019r byd ffermio am ddim ond 4% o brynwyr tir amaethyddol.<\/p>\n<p><strong>Costau uchel tai gwledig: <\/strong>mae cyfartaledd prisiau tai mewn ardaloedd gwledig wedi mwy na dyblu dros y degawd diwethaf i dros \u00a3250,000, a &nbsp;\u00a321,000 yw\u2019r cyflog cyfartalog.<\/p>\n<p><strong>Perchnogaeth tir<\/strong>: mae ffermydd wedi bod yn mynd yn llai niferus ac yn fwy o faint. Yn y cyfamser, mae nifer y Ffermydd Sirol wedi gostwng wrth i\u2019r Cynghorau eu gwerthu.<\/p>\n<p>Nid yw ffermydd yn fforddiadwy mwyach: ni all y rhan fwyaf o ffermwyr greu\u2019r incwm angenrheidiol i gynnal morgais ar gyfer y fferm gyfartalog o ffermio\u2019n unig. Cymhareb pris prynu fferm i gyfartaledd yr incwm amaethyddol yw dros ugain i un ar gyfartaledd. Canlyniad hyn yw corff sylweddol o bobl sy\u2019n dymuno ffermio tyddyn ecolegol ond sy\u2019n methu fforddio gwneud hynny. Rydym am newid hyn.<\/p>\n<h2>Ein Model \u2013 creu tyddynnod ecolegol<\/h2>\n<p>Mae ein cydweithfa\u2019n prynu tir amaethyddol gyda\u2019r bwriad o\u2019i rannu\u2019n nifer o dyddynnod&nbsp; preswyl a reolir yn ecolegol. Gan dynnu oddi ar gyngor garddwriaethwyr a ffermwyr organig, ecolegwyr, arbenigwyr pridd, ymgynghorwyr cludiant, cynllunwyr, darpar gwsmeriaid, y gymuned leol, a\u2019r sawl gyda gwybodaeth leol, byddwn wedyn yn sefydlu clwstwr newydd o dyddynnod gyda chynllun rheolaeth ecolegol cyfrwymol.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l i ganiat\u00e2d cynllunio gael ei roi, mae ein cydweithfa\u2019n gwerthu (prydles 150 mlynedd) neu\u2019n rhentu\u2019r tyddynnod i newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth ecolegol ar gyfradd fforddiadwy ac yn monitro perfformiad y deiliadaethau yn erbyn cynllun rheolaeth ecolegol y safle cyfan.<\/p>\n<p>Yn ein safle cyntaf, sef Greenham Reach, yn ogystal \u00e2\u2019i ddeiliadaeth o bump i naw erw o dir, cafodd y tri theulu o dyddynwyr y gefnogaeth ganlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Caniat\u00e2d i adeiladu annedd effaith isel<\/li>\n<li>Ysgubor ffr\u00e2m bren a rennir<\/li>\n<li>Mynediad i\u2019r ffordd a thrac carreg mewnol<\/li>\n<li>Cynhyrchu trydan adnewyddadwy ar y safle<\/li>\n<li>D\u0175r trwy gynaeafu d\u0175r glaw a thwll turio<\/li>\n<li>Sesiynau mentora busnes gan arbenigwr o\u2019r sector am flwyddyn<\/li>\n<\/ul>\n<p><em>\u201cFel cymdeithas, wynebwn nifer o heriau di-oed a thymor hwy mewn perthynas \u00e2 diogelwch bwyd, ynni a newid mewn hinsawdd. Mae ymateb gwirioneddol gynaliadwy yn dibynnu ar fwy o ffermwyr bach mewn datblygiadau effaith isel, sy\u2019n darparu bwyd da, data arbrofol ac sy\u2019n cyfrannu at adfywio gwledig. Mae\u2019r Ecological Land Cooperative yn gwneud hynny\u2019n union \u2013 yn rhoi ar waith heddiw\u2019r sylfeini ar gyfer cynhyrchu bwyd yfory\u201d<br \/>\n<strong>Caroline Lucas AS, y Blaid Werdd<\/strong><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r Ecological Land Cooperative yn datblygu tyddynnod fforddiadwy, effaith isel ar gyfer amaethyddiaeth ecolegol. Mae costau uchel tir a thai<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-169","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":{"post_hide_featured_img":null,"post_featured_img_size":null,"post_featured_img_pos":null,"post_related_posts":null,"gen_related_files":null},"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.1 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Amdanom Ni - Ecological Land Cooperative<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Amdanom Ni - Ecological Land Cooperative\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae\u2019r Ecological Land Cooperative yn datblygu tyddynnod fforddiadwy, effaith isel ar gyfer amaethyddiaeth ecolegol. Mae costau uchel tir a thai\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ecological Land Cooperative\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-09-25T16:40:23+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/\",\"url\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/\",\"name\":\"Amdanom Ni - Ecological Land Cooperative\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/#website\"},\"datePublished\":\"2018-06-20T12:53:45+00:00\",\"dateModified\":\"2022-09-25T16:40:23+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Amdanom Ni\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/#website\",\"url\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/\",\"name\":\"Ecological Land Cooperative\",\"description\":\"For a living, working countryside\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/#organization\",\"name\":\"Ecological Land Cooperative\",\"url\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/elc-logo-nostrap-240px.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/elc-logo-nostrap-240px.png\",\"width\":240,\"height\":116,\"caption\":\"Ecological Land Cooperative\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/ecologicalland.coop\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Amdanom Ni - Ecological Land Cooperative","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Amdanom Ni - Ecological Land Cooperative","og_description":"Mae\u2019r Ecological Land Cooperative yn datblygu tyddynnod fforddiadwy, effaith isel ar gyfer amaethyddiaeth ecolegol. Mae costau uchel tir a thai","og_url":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/","og_site_name":"Ecological Land Cooperative","article_modified_time":"2022-09-25T16:40:23+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/","url":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/","name":"Amdanom Ni - Ecological Land Cooperative","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ecologicalland.coop\/#website"},"datePublished":"2018-06-20T12:53:45+00:00","dateModified":"2022-09-25T16:40:23+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/amdanom-ni\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/ecologicalland.coop\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Amdanom Ni"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/ecologicalland.coop\/#website","url":"https:\/\/ecologicalland.coop\/","name":"Ecological Land Cooperative","description":"For a living, working countryside","publisher":{"@id":"https:\/\/ecologicalland.coop\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/ecologicalland.coop\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/ecologicalland.coop\/#organization","name":"Ecological Land Cooperative","url":"https:\/\/ecologicalland.coop\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/ecologicalland.coop\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/ecologicalland.coop\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/elc-logo-nostrap-240px.png","contentUrl":"https:\/\/ecologicalland.coop\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/elc-logo-nostrap-240px.png","width":240,"height":116,"caption":"Ecological Land Cooperative"},"image":{"@id":"https:\/\/ecologicalland.coop\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/PdtP54-2J","jetpack_sharing_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/169","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=169"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/169\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2600,"href":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/169\/revisions\/2600"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ecologicalland.coop\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=169"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}