Ein Gweledigaeth
Creu cefn gwlad byw, gweithredol a hygyrch i bawb
RRydym am weld cefn gwlad, byw ac ymarferol lle gwerthfawrogir tir fel ffordd o wella llês y gymuned, cefn-gwlad a’r byd naturiol
Gan adfywio economïau gwledig, cefnogir newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth trwy wneud mynediad i dir yn realiti i bawb - nid dim ond ychydig.
Rydym am weld bywoliaeth effaith isel tir-seiliedig yn ffynnu. Gwarchod y tir i greu bwyd a chynhyrchion tir-seiliedig sy’n iachus, cyflawn ac ecolegol gadarn a sydd o fantais i bobl a’r biosffer – heddiw ac yn y dyfodol.
Ein Nodau ac Amcanion
Galluogi ffermwyr y dyfodol i gael tir
Ein cenhadaeth yw darparu cyfleoedd fforddiadwy ar gyfer busnesau tir-seiliedig ecolegol yng Nghymru a Lloegr. Cefnogwn adfywio gwledig trwy ddatblygu safleoedd ar gyfer ffermio, coedwigaeth a mentrau gwledig eraill sy’n ymarferol ac o fantais i’r amgylchedd.
Dangoswn y gellir rheoli tir amaethyddol ymylol i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu bwyd da, iâch a lleol.
Ein nôd yw rhannu tir yn fwy gyfartal ymhlith y boblogaeth, gan helpu adfywio cymunedau gwledig trwy wneud tir, bwyd a swyddi’n hygyrch i bawb.
Ceisiwn unioni achos hanesyddol y berchnogaeth grynodedig o dir yng Nghymru a Lloegr trwy ymgyrchu am newid polisi. Cynhaliwn ymchwil tymor hir sy’n darparu tystiolaeth o fanteision amaethyddiaeth effaith isel, amaethyddol ecolegol i bobl a thir.
Trwy brynu tir a’i isrannu’n nifer o dyddynnod preswyl ecolegol, mae’r ateb syml ac ymarferol hwn yn helpu creu’r amodau angenrheidiol i’r rheiny sy’n ceisio mynd ar drywydd bywoliaeth tir-seiliedig.
Dyma’n hamcanion craidd:
- sicrhau tir ar gyfer tyddynnod effaith isel, preswyl, amaethyddol-ecolegol
- creu ‘ffermydd cychwynnol’ effaith isel, preswyl, amaethyddol-ecolegol
- creu swyddi a chyflogaeth wledig
- cynnal a chyhoeddi ymchwil i ymarferoldeb busnesau fferm graddfa fach, amaethyddol-ecolegol
- dynodi a chefnogi newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth ecolegol
- ymgyrchu am newid mewn polisi mewn bwyd, cynllunio ac amaethyddiaeth ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
- creu ymchwil a data sydd ar gael yn rhydd ar-lein ac o fewn cyrraedd pawb
- creu cyfleoedd i bobl a chymunedau gael mynediad i dir a chymryd rhan mewn tyfu
Ein Gwerthoedd
Cydweithredu, gwarchodaeth ecolegol, a gwladwriaeth o dir, pobl a lle
Mae’r ELC yn gymdeithas budd cymunedol ac yn sefydliad aelodaeth agored i bawb. Crëwn atebion ymarferol i gael cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad i amaethyddiaeth ecolegol.
Fel cydweithfa, safwn am:
- y byd naturiol, amrywiaeth ecolegol a’r hawl i fwyd da, iachus;
- sofraniaeth bwyd, adfywio gwledig a’r hawl i weithio’r tir;
- mynediad i bawb i fyw tir-seiliedig;
- adfywio tirweddau ac economïau gwledig;
- galluogi pawb i fyw bywydau effaith isel os dewisant wneud hynny
- cydweithredu, cyfranogiad, a thryloywder;
- hawl cenedlaethau’r dyfodol i etifeddu tir a reolir yn ecolegol ac yn gydweithredol;
- tirwedd sy’n cefnogi amrywiaeth o blanhigion, anifeiliaid a phobl i fwynhau, manteisio a gofalu am heddiw ac yfory.