Ein model cydweithredol

Mae’r Ecological Land Cooperative yn sefydliad aelodaeth: ar ymuno, mae aelodau’n dod yn rhan o’r grŵp o bobl sy’n berchen ar y gydweithfa gyda’i gilydd ac yn penderfynu ar sut y dylid ei redeg. Rydym wastad yn hapus i groesawu aelodau newydd! Rydym yn Gymdeithas Budd Cymunedol sydd wedi cofrestru gyda’r Awdurdod  Ymddygiad Ariannol a chaiff ein Bwrdd cyfarwyddwyr ei ethol gan yr aelodau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

Mae gan ein cydweithfa ni fudd-ddeiliaid niferus. Mae gennym dri math o aelodaeth a phob un o’r rheiny’n rhannu cyfran o hawliau pleidleisio. Ar hyn o bryd, mae gennym 300 o aelodau: mae 273 yn fuddsoddwyr, 19 yn stiwardiaid ac 8 yn weithwyr.

 

Mae Aelod Fuddsoddwyr wedi buddsoddi arian yn y gydweithfa, sy’n rhannu 25% o’r hawliau pleidleisio ac yn cael enillion ar eu buddsoddiad.
Darganfyddwch mwy ar ein tudalen buddsoddwyr fan hyn.

 

Aelod Weithwyr yw’r bobl sy’n gweithio i’r gydweithfa. Fel aelod fuddsoddwyr, maen nhw hefyd yn rhannu 25% o’r hawliau pleidleisio. Mae Aelod Weithwyr yn gyflogeion ac yn wirfoddolwyr sy’n gweithio 15 niwrnod y flwyddyn o leiaf.

 

Mae Stiward Aelodau yn rheolwyr tir ecolegol ac yn rhannu’r 50% o’r hawliau pleidleisio sy’n weddill. Dyfernir hawliau pleidleisio i Stiward Aelodau yn bennaf gan mai nhw yw’r prif fuddiolwyr ond, yn aml iawn, nid oes ganddynt yr amser i redeg eu tyddyn eu hunain a gwasanaethu ar y Bwrdd Cyfarwyddwyr. Dyluniwyd y categori aelodaeth hwn yn bennaf ar gyfer tyddynwyr y gydweithfa ond gall defnyddwyr tir ecolegol wrth eu gwaith sy’n ffermio ar eu tyddynnod eu hunain wneud cais i fod yn rhan ohono. Gwnewch gais i fod yn aelod stiward ar dudalen aelodaeth y stiwardiaid fan hyn.

 

Gallwch ddarllen rheolau llawn yr Ecological Land Cooperative fan hyn

 

Rhoddion. Wrth gwrs, croesawn roddion hefyd. Gallwch wneud rhodd ariannol gan ddefnyddio’r botwm paypal isod neu drwy anfon siec at:

The Ecological Land Cooperative
Uned 204, Brighton Eco-centre
39-41 Surrey St, Brighton,  BN1 3PB

 

Neu carem glywed gennych os hoffech roi tir, neu swyddfa neu offer fferm.