Ein Model

Mae’r Ecological Land Cooperative yn datblygu tyddynnod fforddiadwy, effaith isel ar gyfer amaethyddiaeth ecolegol. Mae costau uchel tir a thai gwledig yn ei gwneud hi bron yn amhosibl i newydd-ddyfodiaid i’r byd ffermio ddechrau busnes ffermio. Trwy ddarparu tyddynnod fforddiadwy a sicr, rydym yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn.

 

Rydym wedi dylunio model i greu tyddynnod fforddiadwy, ecolegol er mwyn rhoi gobaith i’r rheiny sy’n dewis byw yn gynaliadwy, sy’n benderfynol o droi syniadau da’n realiti a chael dylanwad cadarnhaol. Ar ôl datblygu ein clwstwr cyntaf o ffermydd yn llwyddiannus yng Nghanol Dyfnaint, rydym wedi dechrau gweithio ar ein hail safle yn Nwyrain Sussex ac wedi prynu’n trydydd safle yng Ngŵyr.

 

Dangoswn y GALL ffermio ecolegol graddfa fach weithio yn yr economi. Mae tyddynnod a reolir yn gynaliadwy yn darparu bywoliaeth effaith isel, yn adfywio tir ac yn cynhyrchu bwyd da, iach i gymunedau lleol, gan gynyddu cynaliadwyedd a gwydnwch, a gwella ecoleg a bioamrywiaeth i genedlaethau’r dyfodol.

 

Trwy gefnogi newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth ecolegol, rydym yn helpu adfywio cymunedau gwledig. Rydym am weld cefn gwlad byw, gweithredol lle gwerthfawrogir tir fel ffordd o wella lles cymunedau a’r byd naturiol.

 

“Cefnogwn fodelau defnydd tir sy’n gwneud i dir weithio i bobl a’r amgylchedd. Yn anffodus, gwelwn newydd-ddyfodiaid i ffermio’n cael trafferth dro ar ôl tro yn sicrhau mynediad i dir, caniatâd cynllunio, neu ddechrau arni. Mae gan yr Ecological Land Cooperative strategaeth wych i helpu newydd-ddyfodiaid oresgyn pob un o’r rhain. Bydd eu model yn cael mwy o dir i mewn i reolaeth gynhyrchiol, ecolegol.”                                                                    
Kate Swade, Cyfarwyddwr, Shared Assets

 

Ein Gwaith

Mae bywoliaeth wledig gynaliadwy, megis cynhyrchiant bwyd ecolegol graddfa fach, yn diogelu’r amgylchedd ac yn lleihau gollyngiadau nwy tŷ gwydr trwy leihau’r defnydd o danwydd ffosil. Mae’r fath fusnesau’n helpu adeiladu cefn gwlad bywiog, byw lle mae pobl yn ffynnu ochr yn ochr â’n tirweddau annwyl a’n bioamrywiaeth naturiol, ac mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae wrth sicrhau diogelwch bwyd ac ynni. Maen nhw hefyd yn darparu cyflogaeth, mynediad i fwyd a chrefftau lleol, a chyfleoedd addysgol i ymwelwyr trefol, gan helpu i gynnal sgiliau gwledig a gwella llythrennedd ecolegol. Ein cenhadaeth yw cynyddu mynediad i dir fforddiadwy ar gyfer y fywoliaeth honno.                                               

 

Ein hateb a’n busnes craidd yw creu clystyrau bychain o dri thyddyn preswyl fforddiadwy neu’n fwy. Yn ogystal â thir, rhown ganiatâd i dyddynwyr godi eu cartref cynaliadwy eu hunain, a hynny gyda gwasanaethau oddi ar y grid a mynediad trwy ffordd. Mae ein model yn ein galluogi ni i gadw costau’n isel, trwy brynu safleoedd mwy o faint am bris is fesul erw, a thrwy ddosbarthu cost isadeiledd, ceisiadau cynllunio a monitro safleoedd dilynol ar draws nifer o dyddynnod. Mae’r model yn galluogi tyddynwyr i weithio a dysgu gyda’i gilydd  ac i ddarparu cefnogaeth i’w gilydd. Mae ein cydweithfa’n cadw’r rhydd-ddaliad ar bob tyddyn er mwyn eu diogelu at ddefnydd amaethyddol ac ecolegol fforddiadwy am byth.                                                           

 

Y tu hwnt i hyn, ein gweledigaeth yw un lle gwerthfawrogir ac y defnyddir tir fel ffordd o wella lles pob un ohonom. Ar hyn o bryd, mae tir yn y DU yn darged hapfuddsoddi; o gymharu, mae ein model yn hyrwyddo gweledigaeth ar y cyd, ecolegol a chydweithredol o berchnogaeth tir a defnydd tir.                                                  

 

“Sefydliad bach yw’r Ecological Land Cooperative gydag uchelgeisiau mawr, ac o’r herwydd, rwy’n ei gymeradwyo.”                                       
Buddsoddwr

 

 

Buddiannau Ehangach

 

Mae ein gwaith wedi’i ganoli ar ddatblygiad tyddynnod ecolegol, ond mae effeithiau ein gwaith yn ehangach na hyn.                         

 

Mae creu deiliadaethau ecolegol hefyd:                                                                                                                                            

  • Yn dangos model cydberchnogaeth a all ddiogelu a gwella’r tir, yn seiliedig nid yn unig ar syniadau cadwraeth, ond ar gynhyrchu cefn gwlad byw a gweithredol;
  • Yn cyfrannu at, ac yn cryfhau’r gymuned sy’n tyfu o unigolion a sefydliadau sy’n ymroi i feithrin y sgiliau, y wybodaeth a’r undod i alluogi’r tir i’n cynnal ni wrth i ni fwrw tuag at gyfnod na ellir ei ragweld;
  • Yn darparu tystiolaeth trwy’n hymchwil monitro safleoedd sy’n helpu cryfhau ymgyrchoedd ar gyfer diwygio tir;
  • Yn ceisio gwella polisi cynllunio trwy ddarparu tystiolaeth ac enghreifftiau bod gan ddefnydd tir ecolegol effaith isel fuddiannau amryfal a dylid ei gofleidio a’i ddeddfu.

 

Y Cyd-destun                                            

 

Mae ffermio allan o gyrraedd newydd-ddyfodiaid. Er bod niferoedd y bobl ifanc sy’n astudio amaethyddiaeth yn tyfu, oedran cyfartalog ffermwyr Prydeinig yw 59 ac mae’n codi. Dyma rai o’r ffactorau sy’n achosi hyn:

 

Costau tir uchel: mae pris tir amaethyddiaeth ar lefelau record ar hyn o bryd, gan gostio £9,000 fesul erw ar gyfartaledd. Mae’r ansefydlogrwydd yn y system ariannol, a’r gyfundrefn cymorthdaliadau, wedi arwain at gynnydd yn y tir a brynwyd fel buddsoddiad. Yn y cyfnod 2000-2010, cyfrifodd newydd-ddyfodiaid i’r byd ffermio am ddim ond 4% o brynwyr tir amaethyddol.

Costau uchel tai gwledig: mae cyfartaledd prisiau tai mewn ardaloedd gwledig wedi mwy na dyblu dros y degawd diwethaf i dros £250,000, a  £21,000 yw’r cyflog cyfartalog.

Perchnogaeth tir: mae ffermydd wedi bod yn mynd yn llai niferus ac yn fwy o faint. Yn y cyfamser, mae nifer y Ffermydd Sirol wedi gostwng wrth i’r Cynghorau eu gwerthu.                                                        

Nid yw ffermydd yn fforddiadwy mwyach: ni all y rhan fwyaf o ffermwyr greu’r incwm angenrheidiol i gynnal morgais ar gyfer y fferm gyfartalog o ffermio’n unig. Cymhareb pris prynu fferm i gyfartaledd yr incwm amaethyddol yw dros ugain i un ar gyfartaledd. Canlyniad hyn yw corff sylweddol o bobl sy’n dymuno ffermio tyddyn ecolegol ond sy’n methu fforddio gwneud hynny. Rydym am newid hyn.

 

Ein Model – creu tyddynnod ecolegol                                                                               

Mae ein cydweithfa’n prynu tir amaethyddol gyda’r bwriad o’i rannu’n nifer o dyddynnod  preswyl a reolir yn ecolegol. Gan dynnu oddi ar gyngor garddwriaethwyr a ffermwyr organig, ecolegwyr, arbenigwyr pridd, ymgynghorwyr cludiant, cynllunwyr, darpar gwsmeriaid, y gymuned leol, a’r sawl gyda gwybodaeth leol, byddwn wedyn yn sefydlu clwstwr newydd o dyddynnod gyda chynllun rheolaeth ecolegol cyfrwymol.

 

Ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi, mae ein cydweithfa’n gwerthu (prydles 150 mlynedd) neu’n rhentu’r tyddynnod i newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth ecolegol ar gyfradd fforddiadwy ac yn monitro perfformiad y deiliadaethau yn erbyn cynllun rheolaeth ecolegol y safle cyfan.                                             

 

Yn ein safle cyntaf, sef Greenham Reach, yn ogystal â’i ddeiliadaeth o bump i naw erw o dir, cafodd y tri theulu o dyddynwyr y gefnogaeth ganlynol:

                   

  • Caniatâd i adeiladu annedd effaith isel
  • Ysgubor ffrâm bren a rennir
  • Mynediad i’r ffordd a thrac carreg mewnol
  • Cynhyrchu trydan adnewyddadwy ar y safle
  • Dŵr trwy gynaeafu dŵr glaw a thwll turio                                       
  • Sesiynau mentora busnes gan arbenigwr o’r sector am flwyddyn                                              

                                            

“Fel cymdeithas, wynebwn nifer o heriau di-oed a thymor hir mewn perthynas â diogelwch bwyd, ynni a newid mewn hinsawdd. Mae ymateb gwirioneddol gynaliadwy yn dibynnu ar fwy o ffermwyr bach mewn datblygiadau effaith isel, sy’n darparu bwyd da, data arbrofol ac sy’n cyfrannu at adfywio gwledig. Mae’r Ecological Land Cooperative yn gwneud hynny’n union – yn rhoi ar waith heddiw’r sylfeini ar gyfer cynhyrchu bwyd yfory”
 Caroline Lucas AS, y Blaid Werdd