Cwestiynau Cyffredin

Pa mor fuan allwn ni symud i’r tir?

Mae hyn yn dibynnu ar hynt datblygiad y safle rydych chi wedi gwneud cais amdano. Unwaith i ni sicrhau caniatâd cynllunio dros dro ar gyfer safle mae’n bosib i bobl ddechrau gwaith ar eu daliad cyn gynted ag y byddant wedi llofnodi eu prydles. Gweler y taflenni gwybodaeth ar gyfer ein safleoedd sydd ar ddod yn Nwyrain Sussex, Gwlad yr Haf a De Cymru i gael darlun llawnach o bryd y gallai hyn fod. Rydym yn deall y gall symud i rywle newydd gymryd amser ond byddem yn hoffi i hynny ddigwydd o fewn deuddeg mis o arwydddo’r brydles.

Beth yw ‘busnes fferm hyfyw, ecolegol, graddfa fach’?

Ystyr hyfyw yw ei bod yn rhaid i chi allu dangos eich bod, ar ôl  tynnu holl gostau’r fferm, yn gwneud digon o elw i gyflenwi’ch costau byw ac i ddarparu ar gyfer buddsoddi yn y busnes yn y dyfodol – yn ddelfrydol byddai’r busnes yn cynnwys ‘cyflog’ digonol ar gyfer eich costau byw. 

Mae ecolegol yn berthnasol i’r egwyddorion amgylcheddol a ddefnyddir yn y prosesau tyfu ac yn cynnwys gwahardd amaeth-gemegolion a gwenwynau, a safonau uchel o les anifeiliaid- gweler y cynllun rheoli am ganllaw llawn i’n gofynion.

Mae graddfa fach yn cyfeirio at faint y tyddyn a maint y tir sy’n cael ei ffermio. Nid ffermydd confensiynol, wedi’u mecaneiddio mohonyn nhw; rhai bach ydynt a byddant yn llafurddwys. Gallwch weld diffiniad o amaethyddiaeth hyfyw ar dudalen 17 o’r Cynllun Rheoli Enghreifftiol.

Beth yw ‘graddfa fferm gyfan’?

Nid oes diffiniad cyfreithiol, ond yr hyn rydym ni’n ei olygu yw gweithredu amaethyddiaeth fasnachol gynhyrchiol- neu amaethgoedwigaeth ayb- mewn modd sydd ag angen y maint yma o dir. Ar gyfer daliadau amaethyddol bach fel hyn rydym yn golygu defnyddio’r mwyafrif o arwynebedd y tir ar gyfer cynhyrchu’n flynyddol neu ar gyfer cylchdroadau byrion.

Pam mae’n rhaid i fi sefydlu tyddyn sy’n hyfyw’n ariannol, pam nad yw bod yn hunan-gynhaliol yn ddigon?

Er mwyn cyrraedd gofynion asesu’r awdurdod lleol ar gyfer caniatâd cynllunio parhaol, rhaid i fusnes y fferm ddangos fod yna elw digonol ar gyfer costau byw’r bobl sy’n byw ar y tir ac i ateb y galw i fuddsoddi yn y  fferm yn y dyfodol. Tra bod dealltwriaeth gynyddol o ffyrdd o fyw bach ei heffaith a phobl angen incymau llai ar gyfer eu costau byw, mae’n anhebyg y byddai fferm sydd ond ag incwm digonol ar gyfer y costau byw mwyaf sylfaenol yn cael ei hystyried yn hyfyw.

Beth yw ‘angen gweithredol’? Pam mae’n rhaid i fi ei ddangos?

Mae’r caniatâd ar gyfer cartref newydd yng nghefn gwlad yn gaeth i amaethyddiaeth felly mae’n rhaid profi fod angen i chi fyw ar y safle er mwyn rhedeg y busnes ffermio ecolegol yn llwyddiannus. Heb yr angen gweithredol gellid ystyried nad oes rheswm i’r cynhyrchydd fyw ar y safle a gellid dileu’r caniatâd cynllunio.

Can I set up an educational or therapeutic project on the land?

We are not offering an opportunity for people to buy land to set up educational or therapeutic projects. Training and education about regenerative agriculture, low impact living and cooperative ways of working are integral to the mission of the ELC and we fully support our smallholders to develop educational and therapeutic offerings. However, this cannot be the main activity of the business. The planning permission is agriculturally tied, meaning that it has been granted on the condition that commercial agriculture in the form of a farm business with a functional need for the grower to live on site is taking place. This will be assessed each year as part of the ELC monitoring process and will also form the basis of independent agricultural assessments that are undertaken when we make the application for permanent planning permission in 5 years’ time. The leases we are offering make this clear. First and foremost this is an opportunity for farmers, not educators and therapists.

Sut mae’r darnau tir yn cael eu prisio?

Rydym yn amcangyfrif pris pob tyddyn trwy weithio allan faint rydym wedi ei wario i brynu’r tir a’i ddatblygu, gan gynnwys cyfran o gostau gosod i fyny a datblygu’r ELC a chost codi’r cyllid i wneud yr holl waith hyn. Y ffactor arall yw maint pob llain – rydym yn gweithio allan costau cyffredinol sefydlog sydd yr un peth ar gyfer pob llain, ac yna pris yr erw sy’n amrywio yn ôl maint y llain.

Sut mae’r opsiwn rhentu i brynu’n gweithio? Pa gostau eraill sydd?

Mae’n opsiwn rhentu i brynu’n galluogi tenantiaid i brynu eu prydles gydag ernes gychwynnol ac yna talu’r gweddill dros gyfnod o flynyddoedd trwy daliadau misol. Mae’r wybodaeth yn y tabl isod yn dangos costau enghreifftiol sy’n rhan o hyn ac opsiynau ar gyfer talu ar gyfer llain 5.5 erw. Disgrifir y costau’n fwy manwl ar dudalen 10 ein cynllun busnes.

 

 

Ernes Pryniad Llwyr Rhentu i Brynu
Llain 5.5 erw £110,000

Ernes gychwynnol (20%)
£22,000

Taliad Misol
ENGHRAIFFT YN UNIG- Caiff yr union rent ei amcangyfrif ar sail y pris prynu terfynnol ar gyfer prydles y llain

£0

£430* am y 5 mlynedd gyntaf

£650 am 20 mlynedd

£0 at ôl 25 mlynedd

Costau blynyddol- ffi monitro ac yswiriant £450 ar y cychwyn- gyda chynnydd blynyddol yn gysylltiedig â chyfradd chwyddiant y CPI £450 ar y cychwyn- gyda chynnydd blynyddol yn gysylltiedig â chyfradd chwyddiant y CPI
Ffi cynnal tyddynwr £650 yn flynyddol -yn gostwng i £0 ar ôl 10 mlynedd £650 yn flynyddol -yn gostwng i £0 ar ôl 10 mlynedd

Taliadau gostyngedig llog yn unig yn ystod 5 mlynedd gyntaf y brydles, h.y. cyn cychwyn ar ad-daliadau cyfalaf

Beth yw’r opsiwn rhentu?

Cynlluniwyd ein hopsiwn rhentu er mwy gwneud llain ELC’n fforddiadwy hyd yn oed i’r rhai hynny nad oes ganddynt gynilion digonol neu fynediad i gyfalaf (e.e. tŷ i’w werthu) er mwyn fforddio ernes y  brydles i gael mynediad at un o’n lleiniau. Bydd yr angen am fuddsoddiad sylweddol yng nghostau cychwynnol y busnes yn parhau. Os oes diddordeb gennych mewn darganfod mwy am yr opsiwn yma, y peth gorau fyddai i chi drafod eich sefyllfa a’ch gofynion gyda ni er mwyn i ni ddeall os yw hyn yn opsiwn y gallwn ei gynnig i chi.

Dim ond caniatâd dros dro am bum mlynedd sydd gennym. Pam?

Oherwydd ei bod yn rhaid i’r ELC brofi i’r gymmuned leol fod hyn yn gallu gweithio a’r datblygiad yn gyfraniad positif i’r economi leol. Mae’r polisi cynllunio’n datgan y dylid rhoi caniatâd dros dro tra bo’r busnes ffermio’n dal i sefydlu ei hun. Mae’r polisi’n disgwyl y bydd y ffermwr, os yn llwyddiannus, yn gwneud cais am ganiatâd parhaol cyn diwedd y cyfnod dros dro, erbyn hyn dylent fod â chofnod o’r hanes i ddangos fod y busnes yn hyfyw.

Beth sy’n digwydd ar ddiwedd y bum mlynedd o ganiatâd dros dro ?

Cyn i’r cyfnod yma ddod i ben ac os cadwyd at y Cynllun Rheoli, bydd yr ELC yn gwneud cais am ganiatâd parhaol. Bydd yr ELC yn gweithio gyda’r tenantiaid i helpu i sicrhau eu bod yn cadw at y cynllun rheoli a bod eu cynlluniau’n eglur a chredadwy.

Fydd prydlesoedd yn etifeddadwy?

Byddant. Gall y tyddynwyr adael eu heiddo i’w plant, neu unrhyw un o’u dewis, ar gyfer y cyfnod o 150 o flynyddoedd sydd yn  y brydles. Ond bydd rhaid i ddeiliad y brydles gydymffurfio â thelerau’r brydles gan gynnwys y cynllun rheoli sy’n gofyn i’r tir gael ei ffermio’n ecolegol. Gellir gofyn i berson sy’n torri’r telerau ildio’r brydles yn ôl i’r ELC.

Allwn ni/nhw werthu’r brydles?

Gellir gwerthu’r brydles, fodd bynnag nid yw’r swm y gellir ei ofyn  am y brydles yn cael ei osod gan y farchnad, yn hytrach mae wedi ei osod allan yn y brydles.

Bydd rhaid i unrhyw un sy’n etifeddu’r tyddyn, neu’n ei brynu wrth y tyddynnwr, gadw at yr un telerau- rhaid iddynt reoli’r tir yn ecolegol ac ennill ei bywoliaeth o’r tyddyn, a rhaid darparu gwaith llawn-amser un person arno. Bydd y brydles hefyd yn rhoi’r hawl gyntaf i’r ELC i brynu’r tyddyn am y pris ailwerthu. Rydym yn argymell fod pob darpar denant yn darllen y Brydles, y Cynllun Rheoli a’r Polisi Prisio yn fanwl.

Sut bydd gwelliannau tenant i’r safle’n cael eu cydnabod os byddant yn penderfynnu gwerthu?

Caiff gwelliannau a gytunir eu hymgorffori i werth ailwerthu’r tyddyn bob blwyddyn. Rhaid cytuno gyda’r ELC ar welliannau o werth uchel - e.e. annedd, adeilad fferm mawr neu newid sylweddol i’r isadeiledd - cyn adeiladu, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys wrth amcangyfrif gwerth ailwerthu. Gellir ychwanegu gwelliannau o werth is i brisiad y busnes yn flynyddol. Er mwyn sicrhau bod y daliadau’n dal yn fforddiadwy bydd cap – terfyn uchaf- ar gyfanswm gwerth gwelliannau a gwerth ailwerthu’r tyddyn yn cynnwys yr annedd. Byddwch cystal â darllen y Polisi Prisio drafft er mwyn deall sut y cytunir ar welliannau a sut mae’r gwerth ailwerthu’n cael ei amcangyfrif bob blwyddyn. Os oes rhywbeth nad ydych yn ei ddeall chwiliwch am gyfarwyddyd, naill ai gan yr ELC neu gan gyfreithiwr, os gwelwch yn dda.

Sawl person all fyw ar un tyddyn?

Gall unigolyn, cwpl neu uned deuluol wneud cais am dyddyn, Wrth gwrs fe ddisgwylir i‘w dibynyddion (e.e. plant, rhieni oedrannus)  fyw yno hefyd. Os ydych yn rhan o grŵp o ffrindiau neu’n ddau gwpl, yna’n cyngor i chi fyddai i chi wneud cais am dyddyn ar wahân i’ch gilydd a’i gwneud yn amlwg yn eich cais y byddech yn hoffi i’ch cais gael ei ystyried ar y cyd â’r ymgeiswyr eraill.

Beth yw’r berthynas rhwng tyddyn unigol â’r ELC?

Mae’r tyddynod unigol yn eiddo i’r tyddynnwr ar brydles 150 o flynyddoedd ac mae tyddynwyr yn rhedeg eu busnesau’n annibynol. Mae’r brydles yn Denantiaeth Busnes Fferm. Mae’r ELC yn cadw’r rhydd-ddaliad er mwyn sicrhau bod y tir yn parhau i gael ei ddefnyddio’n ecolegol ac ar gyfer ennill bywoliaeth wedi’i seilio ar y tir a, petai’r tir yn cael ei werthu, ei fod yn cael ei werthu ymlaen am bris fforddiadwy. Fel y nodir yng nghytundeb y lesddaliad byddai’r ELC’n monitro’r safle’n flynyddol ac yn ceisio cywiro unrhyw faterion yn codi o’r broses. Efallai bydd yr ELC yn gallu helpu wrth wneud ceisiadau am grantiau ac unrhyw gymorth a chefnogaeth sydd eu hangen i fusnesau ffermio i lwyddo.

Oes rhaid i ni gadw at reoliadau adeiladu ar gyfer yr annedd dros dro?

Nac oes, yn y cyfnod dros dro o ganiatâd. Rydym wedi derbyn cyngor fod carafanau a chabanau pren llai na 20m o hyd a 6.8m o led yn syrthio o fewn y diffiniad o garafán ac felly’n rhydd o reoliadau adeiladu. Mae’n debyg y byddai’n rhaid i adeilad ar gyfer annedd parhaol gadw at y rheoliadau. Siaradwch gyda ni neu darllenwch y ddeddf Carafannau 1968 (Diwygiwyd 2006) am ddealltwriaeth well o’r rholiadau.

Allwn ni gadw anifeiliaid anwes?

Gallwch. Yn wir rydym yn disgwyl y bydd llawer o’n tyddynwyr yn cadw anifeiliaid a da byw sy’n rhan annatod o’u busnesau ac yn cydnabod nad yw rhai pobl yn gwahaniaethu rhwng anifeiliaid ‘anwes’ a rhai fferm. Er hynny, fel pobl, nid yw rhai anifeiliaid yn cyd-fynd a’i gilydd. Rydym yn awgrymu fod y mater o anifeiliaid ‘anwes’, fel nifer o faterion eraill, yn un y bydd yn rhaid i gymdogion ei drafod a dod i delerau amdano ac efallai bydd rhaid cyfaddawdu.

Ydy e’n gomiwn o ryw fath?

Nac ydy. Mae gan bob tyddynwr ei dyddyn annibynnol ac annedd ei hun. Er hynny rydym yn darparu cyfleusterau a rennir yn cynnwys mynediad i’r safle a thrac, ysgubor gydag aráe paneli solar a chyflenwad dŵr.

Beth sy’n digwydd os nad wyf bob amser yn cytuno â’m cymdogion?

Mae’n bosibl y bydd anghydfodau rhywbryd ym mywyd y clwstwr tyddynnod ac, o’u trafod yn y modd cywir, gall hyn fod o fudd i ddatblygu perthynas  agos, cydgefnogol, rhwng cymdogion. Rydym hefyd yn cydnabod bod delio â’r materion yma’n gallu bod yn anodd. Byddwn yn darparu hyfforddiant ar weithio’n effeithiol fel grŵp a datrys gwrthdaro ar gyfer tyddynwyr newydd. Bydd yr ELC’n gwneud cymaint a fedrant i ddarparu fframwaith cyffredinol gyda therfynau diffiniedig a chytundebau i leihau’r risg o anghydfodau sy’n gallu arwain at wrthdaro.